Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (3) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd yr 13 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 6 a 9 eu grwpio.
14.31
Cwestiwn Brys
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch y 150 o swyddi a gollwyd yn y Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd.
14.43
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14.57
3. Cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad
NDM4723 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Sandy Mewies (Llafur), Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru), Angela Burns (Ceidwadwyr) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o Gomisiwn y Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daeth y cyfarfod i ben am 14.58.
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 9.30 am Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011